AT Y MEDDYG GWELL.

Dyna lle'r aeth John, plentyn ieuengaf Robert ac Ellen Jones, Penbryn Huddig, yn ddwy flwydd a naw mis oed, a hi yn dyddhau ddydd Sul, y cyntaf o'r mis hwn.

Beroes o chwilio am iechyd oedd eiddo "John bach," fel y gelwid ef hyd ymhell, oherwydd ei barabl croew, a'i bertrwydd hynod. Pan yn myned gyda'r tren i'r Penrhyn at y meddyg hysbys yno, tynnai sylw'r llu at ei ddigrifwch diniwed, nes peri ymholiad, "Pa beth a fydd y bachgen hwn ?" Ac wedyn, pan yn cyrchu yn ei gerbyd bach at y meddyg E. Shelton Jones, i Bwllheli, tynnai lygad a chlust y "dyrfa" ato, yn gystal a chalon ei feddyg.

Ond ofer fu ymchwil y fam ac aberth y tad ar ei ran, nes galwodd y Meddyg Gwell am eu hanwylyn.

Ac er mor anodd oedd ei ollwng o'u gafael, hyd yn oed iddo Ef, try yr anhawster yn ddiolch am na chaed "John bach" yn ôl, fel y can Elfed, pe gwelent ef yng ngartre'r Meddyg Gwell, "yn iach heb friw na phoen," a'i ddigrifwch tlws yn dotio hyd yn oed engyl y wenfro, a'r Meddyg Ei Hun!

Yr Udgorn 04/12/1918