MARWOLAETH SYDYN.
Fore dydd Gwener, wedi ychydig ddyddiau o gystudd, bu farw Mr. Leonard Bishop, priod Mrs. Catherine A Bishop, Abererch Road, ac efe yn 37 mlwydd oed.Genedigol ydoedd yr ymadawedig o Lanuwchlyn, Bala, a gwasanaethai fel signalman ar y rheilffordd yng ngorsaf y dref. Cymeriad tawel ac addfwyn oedd.
Cymerodd ei gladdedigaeth (anghyhoedd) le ddydd Llun yn mynwent Abererch. Gwasanaethwyd yn y tŷ a'r fynwent gan y Parch. J. Edwards, B.A., Ficer. Rhoes ei gydweithwyr flodeuglwm hardd, ac yr oedd amryw o honynt yn bresenol yn yr angladd.
Cydymdeimlwn a'r teulu yn eu trallod chwerw a dwfn. Mor wir heddyw onide y gwireddir yn hanes yr hil ddynol ddyfnder meddwl yr englyn canlynol
"Gall gwr fod neithiwr yn iach,— y boreu
Heb arwydd amgenach,
Yfory'n annifyrach,
Drenydd ar obenydd bach!"