ABERERCH.
Dydd Sadwrn cyn y Nadolig, claddwyd yn mynwent y plwyf uchod Mr. Richard Jones Roberts, mab Ieuengaf y diweddar Barch. Hugh Roberts, ficer Aberdaron.Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. B. Thomas, B.D., rheithor Llanddona (brawd-yn-nghyfraith), a'r Parch. D. Jones, B.A., ficer y plwyf. Ymhlith y galarwyr oeddent Mrs. Lloyd, Trallwyn; Syr H. J. Ellis Nanney, Barwnig; Canon J. P. Lewis, Mr. Arthur Owen, a Mr. Owen Owen.
Anfonwyd plethdorchau gan Mrs. Roberts (y weddw), a'i mab Eric; Misses Roberts, Gwynfryn, Penmaenmawr, a Mrs. Benjamin Thomas, Llanddona (chwlorydd); Mrs. Lloyd, Trallwyn; Mrs. Wynn Roberts, Capel Curlg; Syr H. J. Ellis Nanney; Mr. Arthur Owen, a Mr. a Mrs. Wynn Roberts, Leigh-on-Sea. Bu yr ymadawedig am flynyddau yn ngwasanaeth y London, City, and Midland (North and South Wales) Bank, ac yr oedd yn adnabyddus iawn yn Mhwllheli a Chaernarfon. O'r lle olaf hwn dyrchafwyd ef i lywyddiaeth y banc yn Ruabon.
Bu yn nychu am hir amser, a gedy weddw a dau fab, yr hynaf o ba rai sydd wedi ei glwyfo yn ngwasanaeth ei wlad yn Ffrainc, ac yn awr mewn ysbytty yno.