GWYWO YN EI FLAGUR.

Nos Sadwrn yr 21ain, wedi hir wendid, gwywodd yn flagur, Thomas Morris Jones, bachgen bach deng mlwydd oed, Mr. Robert ac Ellen Jones, Tan-y-Clogwyn. Dydd Mercher, hebryngwyd ei ran gystuddiol i erw Duw, ger mur hen Eglwys Cawrdaf Sant, gan dorf eithriadol o hardd a lluosog.

Gweinyddwyd gan y Parchn. Morgan Price, David Roberts, a D Jones, rheithor. Annefodol, naturiol, a nodweddiadol dlws o fywyd plentyn bach oedd y lliaws blodeudorchau orchuddient wyneb yr arch brydferth.

Anfonwyd un ohonynt gan Mr. a Mrs. Lloyd Evans. Broom Hall, un arall gan Mrs. Pritchard, Bryn Gwalia.. Llangybi, ac un arall gan gyd-ysgolheigion Tomi bach, o ysgol Abererch, yr hon oedd yn amgauedig a chlawr gwydr ysblenydd. A phan y gollyngid yr arch fechan i bridd dwys y bedd, sylwasom ar ddagrau nifer o'r plant yn cyd-ddisgyn. Ac os tlysion y blodau, tlysach dagrau'r plant.

Ystyr y blodau a'r dagrau i gyd oedd fod Tomi bach yn fachgen da. Un o nodweddion prydferth y daioni hwnw ynddo oedd ei addfwynder yn goddef cam, yn hytrach na dial. Meddyliai hefyd fwy nag a ddywedai. Yr oedd yn ddysgwr llwyr, ac yn caru llyfrau fel ei gyfeillion. Ac os gwywodd ei "flodeuyn"

Mae Tomi bach yn iach uchod.- na wylwch
Yn niwl oer y beddrod;
Dihafal clywch yn dyfod
I'w Fugail hardd, ei fyw glod.

Er hyny, yn eu dagrau mae ei rieni, ac yn dymuno diolch i'r llu caredig geisiodd eu sychu mewn cydymdeimlad, nid yn unig mewr gair, ond mewn gweithred hefyd.

Herald Gymraeg 01/12/1914


GWYWO YN GYNAR.

Nos Sadwrn, yr 21ain cyfisol, wedi misoedd o nychdod a gwaeledd, yn 10 mlwydd oed, bu farw Thomas Morris, bachgen hynaf Mr a Mrs Jones, Tan y Clogwyn (gynt o Benbryn Huddugl).

Cludwyd ei weddillion marwol i Fynwent y Plwyf nawn Mercher diweddaf, pryd y daeth cynulliad lluosog i ddangos eu cydymdeimlad a'r rhai oedd yn eu galar.

Trefnodd Miss Roberts, yr ysgolfeistres, ar fod nifer o'r plant mwyaf yn bresenol yn nghynhebrwng y cyfaill ieuanc, yr hwn a fu yn gydysgolhaig a hwynt am dymhor byr, ond a dorwyd i lawr ar ganol dysgu y gwersi.

Tomi bach sy'u iach uchod,—na wylwch
Yn niwl oer y beddrod;
Dihafal, clywch yn dyfod
I'w Fugail hardd ei fyw glod.

Yma y mae bywyd mor fyr a thrist,
"Ddaw neb yn rhy gynar i fyd Iesu Grist."
                            CYBI (Ei Ewythr).

Yr Udgorn 02/12/1914