ABERERCH.
Ar y 12fed o Fawrth, claddwyd Mr. Richard Owen, Caegwenllian, Pentrefelin, yn Mynwent Abererch, ger Pwllheli.Ar ôl yr angladd arweiniodd y Ficer caredig, y Parch. D. Jones, yr oll o'r galarwyr i'r Vicarage, lle yr oedd ei briod anwyl, Mrs. Jones, wedi darparu te ardderchog ar eu cyfer, yr hwn a fwynhawyd ac a werthfawrogid o eigion calon.
Yr oedd y diolchgarwch gwresocaf yn meddianu mynwes pawb yn bresenol ynghyd a dymuniad calon y bydd i Ragluniaeth wenu yn wastadol ar Mr. a Mrs. Jones, Vicarage, Abererch. -Amicus.