Digwyddiad Ofnadwy yn Prestatyn.
CYHUDDO GENETH IEUANC O LADD EI MEISTRES.
Achoswyd cyffro mawr yn Mhrestatyn ddydd Mercher diweddaf, pan gaed allan fod Alice Hughes, geneth ieuanc o Langefni, Môn, wedi ei chymeryd i'r ddalfa ar amheuaeth o fod wedi achosi marwolaeth ei meistres, Miss Jane Roberts Humphreys, Plas Ucha, Prestatyn, trwy ei llindagu. Oddeutu saith o'r gloch y boreu hwnw galwyd ar y Rhinyll Nelson i Plas Uchaf. Pan aeth i'r tŷ dywedodd Miss Humphreys wrtho yn nghlyw y forwyn, fod yr eneth yn ymddwyn yn afreolus ac yn anufudd iawn. Gofynodd yr heddwas i Miss Humphreys beth fwriadai wneud gyda'r eneth, a dywedodd yr eneth yr ai hi adref os cai ei chyflog. Yna gofynodd ei meistres iddi pam na fuasai yn gwneud ei gwaith yn dawel a bod yn eneth dda. Yr oedd yr eneth, meddai Miss Humphreys, yn gwrthod codi yn y bore, ac yn gwrthod gwneud ei gwaith. Dywedodd yr eneth ei bod yn mynd i wisgo amdani ac ar hyny aeth yr heddwas oddiyno, gan ymddangosai fod popeth yn iawn.Tua haner awr wedi naw yr un bore gwelai yr heddwas yr eneth yn mynd yn brysur i lawr y stryd yn Prestatyn. Aeth ati a gofynodd iddi a oedd popeth yn iawn i fyny yno. Dywedodd yr eneth nad oedd Miss Humphreys yn teimlo'n dda, a'i bod hi yn mynd i anfon am frawd ei meistres o Newmarket. Gwelodd yr eneth wedi hyny yn mynd mewn cerbyd i gyfeiriad Plas Uchaf. Aeth yntau yno ar ei hol a gwelai lawer o bobl wedi casglu o gwmpas y lle. Yr oedd Alice Hughes yn sefyll wrth ymyl y tŷ ac aeth yr heddwas ati a gofynodd beth oedd y mater. Yr oedd allwedd y ty ganddi, a rhoes hwnw i'r heddgeidwad, ond gwrthododd fynd gyda ef i'r tŷ. Gafaelodd yntau yn ei braich ac aeth gyda hi i'r tŷ, a dywedodd yr eneth fod ei meistres yn y llofft. Gadawodd yr heddwas y ferch ieuanc yn ngofal rhyw ddyn ac aeth yntau i fyny'r llofft.
Yno canfu Miss Humphreys yn gorwedd ar y llofft. Yr oedd yn gynes, ond yn hollol farw, ac ysgriffiadau dyfnion ar ei gwddf. Y r oedd yn amlwg y bu ymdrech galed yno. Cafodd gydyn o wallt ar lawr yn ymyl y drancedig. Yr oedd ystafell y forwyn mewn anrhefn, y drawers yn haner agored, a'r dillad wedi eu lluchio hyd y llofft. Cafodd yr heddwas gydyn o wallt yno hefyd a ffon. Wedi hyny aeth ag Alice Hughes i orsaf yr heddlu, a chyhuddodd hi o lofruddio Jane Roberts Humphreys. Mewn atebiad dywedodd ni wnaeth hi ddim. Cafodd wasgfa, a syrthiodd i lawr. Yr oedd amryw ysgriffiadau ar freichiau'r eneth.
Yn hwyrach yn y dydd aed a'r eneth o flaen yr ynadon, ac yr oedd yr adeilad yn or lawn, gan fod y newydd am y trychineb wedi ymledu trwy y fro fel tan gwyllt. Ni alwyd ond dau dyst, sef yr heddwas a Dr Williams. Yr oedd tystiolaeth y blaenaf yn ymarferol yr un fath ag y nodwyd eisioes. Dywedai y meddyg, yr hwn a fu'n archwilio'r corff ar ôl y darganfyddiad trychinebus, y barnai ef yn sicr y cyfarfu y drancedig a'i diwedd trwy gael ei llindagu. Yr oedd ol bysedd a bawd yn ddwfn yn ei gwddf yn agos i'r bibell wynt. Credai ef hefyd nad oedd yr eneth yn gyfrifol am yr hyn oedd yn ei wneud ar y pryd, oherwydd yr oedd yn hollol anymwybodol o'i hamgylchoedd. Pan roddai yr heddwas ei dystiolaeth dywedai yr eneth nad oedd yn clywed yr un gair. a chanfuwyd ei bod yn lled fyddar. Dywedodd yr ynad wrthi y byddai raid ei chymeryd i garchar Walton hyd y trengholiad ddydd Iau.
Y TRENGHOLIAD.
Ddydd Iau, cynhaliwyd y trengholiad gan Mr F. Llewelyn Jones, y crwner. Yr oedd tad y garchares yn bresenol. Ni ddywedodd yr un gair yn ystod yr gweithrediadau, ond ymddangosai yn drist iawn. Ni wnaed yn unig ond derbyn tystiolaeth o adnabyddiaeth er mwyn i'r corff gael ei gladdu. Galwyd ar Mr Richard Roberts Humphreys, brawd y drancedig, yr hwn a ddywedodd y huasai ei chwaer yn haner cant oed yr wythnos nesaf. Yna gohiriwyd y trengholiad hyd heddyw (ddydd Mawrth). Nid yw Alice Hughes, yr hon a gyhuddir o'r llofruddiaeth, ond deunaw oed. Mae'n eneth ieuanc gref, a gwynebryd rhadlon ganddi. Dywedir fod arni eisieu mynd gyda pleserdaith y dydd Mercher dan sylw i Landudno, ond fod ei meistres yn wrthwynebol iddi gael mynd.ANGLADD MISS HUMPHREYS.
Bu Miss Humphreys unwaith yn preswylio yn y Droellan, Abererch, ger Pwllheli. Bu ei thad yn cadw siop, un adeg yn Mhwllheli, ac mae iddi amryw berthynasau yn y fro. Mae ei mam yn trigo yn Newmarket a'i mab. Yr oedd Miss Humphreys, meddir, yn nodedig o fanwl gyda threfniadau teuluol, yn arfer a chael ei ffordd ei hun, a'i gair yn ddeddf. Ddydd Sadwrn diweddaf, hebryngwyd ei gweddillion marwol i orffwys yn mynwent Abererch.Yr Udgorn 24/09/1913
Marwolaeth y Foneddiges o Prestatyn.
Y TRENGHOLIAD.
Ddechreu'r wythnos ddiweddaf cynhaliodd Mr. F. Llewelyn Jones, crwner Sir Fflint, drengholiad i achos marwolaeth Miss Humphreysr, Plas Uchaf, Prestatyn, yr hon fel y gwyddis a fu farw o dan amgylchiadau cyffrous. Y tyst cyntaf alwyd oedd Richard Robert Humphreys, brawd y drancedig. Tystiodd y gwelodd ei chwaer foreu diwrnod y trychineb. Yr oedd yn edrych yn hollol iach a siriol, ac nid oedd arwydd unrhyw gweryl rhyngddi ag Alice Hughes, y forwyn. Aeth ef gartref i Newmarket, ond galwyd ef yn ôl wedi hyny gan y newydd fod ei chwaer yn wael. Pan pyrhaeddodd yno 'roedd rhyw ferched yn rhoi ei chwaer yn ei gwely. Galwyd ar Thomas Jones, gwas y Plas Uchaf, yr hwn a ddywedodd ei fod yn gwasanaethu gyda Miss Humphreys ers pum' mlynedd. Yr oedd Alice Hughes yno'n gweini hefyd ers tri mis. Aeth i'r fferm tua haner awr wedi chwech y boreu hwnw. Yr oedd Alice yn eistedd ar ben y grisiau. Dywedai y bu yn wael drwy y nos. Dywedodd yntau nad oedd yn ei gweled yn edrych yn debyg i wael, a'i bod yn gywilydd iddi flino ei meistres.Aeth ef allan wedi hyny, ond ymhen ychydig galwyd arno i'r tŷ gan Miss Humphreys, yr hon a ofynodd iddo fynd i alw hedd geidwad. Yr oedd ei feistres yn ymddangos braidd yn gyffrous. Dywedodd wrth ddyn ieuanc oedd yn mynd heibio am ddweyd wrth yr heddgeidwad am ddod yno, ac wedi hyny aeth allan. Ymhen rhyw awr gwelai Alice Hughes yn cloi'r drws ac yn cychwyn tua'r dref. Gofynodd iddi i ble'r oedd yn mynd, ac atebodd hithau am iddo beidio holi. Yn fuan wedyn daeth dyn o'r enw Dowell yno. ac Alice gydag ef. Dywedodd Dowell fod yr eneth eisieu iddo ef fynd a hi mewn cerbyd i Gop Farm, ond nid oedd yn hoffi mynd a hi heb ddod i'r tŷ gyntaf.
Gyda hyny daeth yr Heddwas Nelson yno, a gofynodd i'r eneth beth oedd y mater, a dywedodd wrthi am ddod gydag ef i'r tŷ. Gwrthodai yr eneth fynd, ond cydiodd ynddi a gwnaeth iddi fynd, a chymerodd yr allwedd oddi ami. Dywedodd y forwyn wrtho fod ei meistres yn y llofft. Aeth yr heddwas i fynu i'r llofft, ac arhosodd y tyst ac Alice Hughes i lawr. Ni ddywedodd yr eneth yr un gair wrtho, ond gofynodd am lymaid o ddwr, ac edrychai yn gyffrous. Yr oedd Miss Humphreys yn cwyno y gwanwyn diweddaf, ond yr oedd yn codi bob dydd. Nis gallai ddweyd a oedd yn llawchwith ai peidio. Nis gwelodd hi erioed yn cael gwasgfa. Yr oedd yn dueddol iawn i gael ei chyffroi. Ni chlywodd hi ag Alice Hughes yn cweryla y boreu hwnw. Cymerodd y Cwnstabl Nelson yr eneth i'r ddalfa, a dywedodd ei fod am ei chymeryd i orsaf yr heddlu ar gyhuddiad o lofruddiaeth. Ni roes yr eneth un atebiad iddo. Tystiodd William Dowell am y modd y daeth Alice Hughes ato gan ofyn iddo fynd a hi i Gop Farm, Newmarket. Yr oedd yr eneth yn bur gyffrous pan ddaeth ato.
TYSTIOLAETH Y CWNSTABL.
Dywedodd y Cwnstabl Nelson yr un stori ag sydd wedi ei chyhoeddi eisoes. Ychwanegodd y dywedodd Miss Humphreys wrtho fod y forwyn yn gwrthod codi yn y boreu. Gofynodd yr eneth am ei chyflog gan ddywedyd yr a'i adref. "Na," meddai Miss Humphreys wrthi, "byddwch yn eneth dda ac ewch yn mlaen hefo'ch gwaith." Yr oedd y ddwy yn hollol ddigyffro ar y pryd. Aeth ef oddiyno, ac oddeutu haner awr wedi naw gwelai yr eneth yn rhedeg i lawr y stryd. Dywedai fod ei meistres yn wael. Aeth yntau yno a gwnaeth i'r eneth fynd gydag ef i'r tŷ. Gwelai Miss Humphreys yn gorwedd ar ei chefn ar lawr a'i gwyneb at y grisiau. Credai ef ei bod yn hollol farw. Yr oedd ystafeil y forwyn yn anrhefnus iawn - y dillad wedi eu tynu o'r drawers a'u gwasgaru hyd y llofft. Aeth a'r eneth gydag ef i orsaf yr heddlu, a chyhuddodd hi o lofruddio ei meistres, ond gwadodd ei bod yn euog, a dy- wedodd mai cael gwasgfa wnaeth ei meistres.ARCHWILIAD Y MEDDYG.
Dywedodd Dr. Eyton Lloyd, Rhyl, iddo wneud archwiliad ar y corff yn unol a chyfarwyddid y crwner. Cynorthwyd ef gan Dr. Evans, Ffynongroeyw, a Dr. Batten Williams, Prestatyn. Yr oedd briw ar ei hysgwydd dde ac ar hyd y gwddf. Yr oedd ol gwasgiad hefyd ar ochr ei gen. Nis gellid ffurfio barn derfynol ynglyn ag achos ei marwolaeth oddiwrth y marciau hyny heb wneud archwiliad mewnol. Gwnaed archwiliad manwl, ac nid oedd dim yn tueddu i ddangos fod y drancedig wedi cael ei llindagu. Yr oedd yn amlwg ei bod yn dueddol i gael ei chyffroi, ac i gael ymosodiad o beth tebyg i epileptic fit, yr hyn a ddilynid gan ddiffyg y galon a marwolaeth. Barnai ef mai dyna fu achos ei marwolaeth. Gallasai cyffro achosi gwasgfa felly, ac yn y wasgfa bydd y person yn teimlo ei hun yn mygu, a gwnai ymdrech galed i gael rhyddhad. Buasai yn naturiol i'r marciau oedd ar y drancedig gael eu hachoi gan law y drancedig wrth geisio cael anadl. Yr oedd Dr. Evans a Dr. Williams yn cytuno ag ef yn hollol nad oedd y drancedig wedi cael ei llindagu. Yr oedd Dr. Evans o'r farn fod ei marwolaeth i'w briodoli i ddiffyg y galon. Beth achosodd hyny oedd gwestiwn arall. Nid oedd unrhyw dystiolaeth i gysylltu y briwiau oedd arni a'i marwolaeth. Pasiwyd rheithfarn iddi farw o far- wolaeth naturiol.ALICE HUGHES O FLAEN Y LLYS.
Ddydd Iau, yn Mhrestatyn, dygwyd Alice Hughes o flaen y Llys heddgeidwadol. Er ei bod yn ymarferol wedi ei rhyddhau drwy y rheithfarn basiwyd yn y trengholiad, yr oedd ei hachos wedi ei ohirio ar gyhuddiad o lofruddiaeth, ac yr oedd yn y carchar yn aros ei phrawf. Dywedai Mr. J. Lloyd, yr hwn a erlynai ar ran Cyfarwyddwr yr Erlyniadau Cyhoeddus, fod y cyhuddiad yn un ag y dylid edrych yn fanwl iddo. Yr oedd yn angenrheidiol i'r holl dystiolaethau yn y trengholiad gael eu hanfon i'r Erlynydd Cyhoeddus. Gallai ef dybio y dylid mynd ymlaen hefo'r achos. Gan hyny gofynai am archeb i ganiatau i'r Erlynydd gael amser i ystyried y tystiolaethau ac i ddweyd a oedd digon o sail tros fynd ymlaen gyda'r achos. Dywedai Mr. Horatio Jones (yr hwn ymddangosai ar ran Alice Hughes) ei fod ef yn foddlawn gadael y mater yn nwylaw'r ynadon. Pasiodd yr ynadon ohirio'r prawf hyd ddydd Mawrth nesaf. Yr eneth i gael ei chadw yn ngharchar Walton yn y cyfamser.Yr Udgorn 01/10/1913
ALICE HUGHES I SEFYLL EI PHRAWF.
LLYTHYRAU OR CARCHAR.
Dygwyd Alice Hughes, yr eneth ddeunaw oed a gyhuddid o lofruddio ei meistres Miss Jane Roberts Humphreys yn Plas Ucha, Prestatyn, o flaen ynadon Rhyl, ddydd Mawrth. Fel y cofir, yn y trengholiad ar gorff Miss Humphreys, pasiwyd rheithfarn iddi farw o farwolaeth naturiol, ac yr oedd hyny, mor bell ag oedd a wnelo'r trengholiad a'r achos, yn rhyddhau'r eneth o'r cyhuddiad difrifol ddygid yn ei herhyn. Ddydd Mawrth dygwyd yr eneth i'r llys, ag arni ôl pryder a phoen meddwl dwys. Yr oedd yn ngofal dwy warchodes o garchar Walton.Dywedodd Mr Joseph Lloyd, cyfreithiwr y Goron, y dymunai hysbysu'r Fainc ar y cychwyn y dibynai ar amgylchiadau pa un a ellid terfynu'r achos y diwrnod hwnw mor bell ag yr oedd a wnelo'r llys hwnw ag ef. Os nad oedd llythyrau arbenig ysgrifenwyd gan yr eneth o garchar Walton at ei mam yn cael eu dwyn ymlaen, byddai raid gofyn am ohiriad fel ag y gellid galw tystiolaeth arall. Sylwodd Mr Lloyd fod yr eneth gyda'i meistres yn y tŷ pan fu'r foneddiges farw. Cloiodd ddrysau'r tŷ ac aeth oddiyno, a phan ofynodd rhyw ddyn iddi ple'r oedd yn mynd, dywedodd wrtho am "feindio'i fusnes ei hun." Yr oedd ysgriffiadau ar fraich yr eneth hefyd pan gymerwyd hi i'r ddalfa.
Yn stesion Prestatyn, ar Medi 17eg, honid i'r Heddwas Nelson ofyn i Alice Hughes sut yr ceddynt yn Plas Ucha, ac iddi hithau ateb ei bod yn eithaf ag ystyried yr amgylchiadau, ac yna o'i gwirfodd, dywedodd, "Buaswn wedi marw onibae mai fi oedd y gryfaf. Galwyd ar yr Heddwas Nelson i roi tystiolaeth, ac yn ychwanegol at y datganiad wnaed gan Mr Lloyd, dywedodd yr eneth wrtho ar ei ffordd i garchar Walton, Medi 25, "Fuasai hyn ddim wedi digwydd pe baent heb eich galw chwi yno."
TYSTIOLAETH MAM YR ENETH.
Galwyd ar Mrs Grace Hughes, mam y gyhuddedig. Yr oedd yn wylo'n hidl, ac yr oedd pawb yn y llys yn teimlo'n ddwys trosti. Gofynwyd iddi a gafodd hi dri llythyr oddiwrth ei merch o'r carchar. Addefodd y cafodd, ond ei bod wedi eu malu a'u llosgi. Dangosodd Mr Lloyd lythyr iddi wedi ei ysgrifenu ar bapur glas, a gofynodd a oedd yn cofio geiriau arbenig oedd yn y llythyrau gafodd oddiwrth ei merch. Dywedodd y dyst, gan wylo, nad oedd yn cofio yr un gair ohonynt. Saesneg oeddynt, meddai, a chredai gan hyny mai rhywun arall oedd i wedi eu copio. Dywedodd Mr Lloyd, oherwydd yr atebiad hwnw gan y fam, y byddai raid galw tystiolaeth y person welodd yr eneth yn ysgrifenu'r llythyr, a'r hwn a'i copiodd.Tystiwyd gan Dr Batten Williams, nad oedd ewyn ar enau'r drancedig, ac nid oedd ei thafod wedi ei frathu, yr hyn sydd arwyddion cyffredin ynglyn ag epileptic fit. Yr oedd ol ar ei gwddf hefyd fel pe bae rhywun wedi gafael yn ffyrnig ynddo. Credai i Miss Humphreys farw o frawychdod. Gallai hyny gael ei achosi drwy i rywun afael yn ei gwddf, a gallai gael ei achosi gan gyffro. Yr oedd yn bosibl, ond yn bur anhebyg, i'r marciau ar ei gwddf gael eu hachosi gan y foneddiges ei hun.
Tystiwyd gan Dr Eyton Lloyd, yr hwn a ddywedodd y credai ef mai o ddiffyg y galon y bu Miss Humphreys farw, a hyny yn cael ei achosi gan gyffro. Yr oedd cyflwr ei hymenydd yn profi yn ei farn ef ei bod yn gyffrous iawn. Cytunai Dr Evans a Dr Lloyd. Nis gallai ddweyd dim penodol. Honai Mr Horatio Jones nad oedd unrhyw dystiolaeth yn erbyn yr eneth.
Cwynai yn herwydd oediad yr Erlynydd Cyhoeddus yn dod a'r achos yn llawn gerbron y llys, a sylwodd y bu pum' diwrnod ar ôl dyfarniad y rheithwyr cyn y gwyddai yr amddiffyniad y dylid cyfarfod yr achos. Cwynai hefyd nad oedd y dystiolaeth roed gan yr Heddwas Nelson wedi ei roi i'r rheithwyr yn y trengholiad. Gofynai am i'r Fainc ddweyd yr hyn ddywedodd yr eneth wrth yr heddwas, "Wnes i ddim iddi; syrthiodd i lawr a chafodd wasgfa," yn ffaith, gan tod tystiolaeth feddygol yn ei gadarnhau.
Penderfynodd y Fainc gyfnewid y cyhuddiad i un o ddynladdiad, a dedfrydwyd Alice Hughes i sefyll ei phrawf ar y cyhuddiad hwnw yn Mrawdlys Rhuthin, ar Hydref 16eg. Caniatawyd meichiafon.
Yr Udgorn 08/10/1913
Prawf Alice Hughes yn y Frawdlys.
EI GOLLWNG YN RHYDD.
Ddydd Sadwrn, bu Alice Hughes yn sefyll ei phrawf yn y Frawdlys ar y cyhuddiad o fod wedi achosi marwolaeth ei meistres, Jane Roberts Humphreys, yn Prestatyn. Eglurodd Mr Trevor Lloyd, ar ran y Goron, fel y canfuwyd Miss Humphreys yn farw yn y llofft. Dywedodd Mr Lloyd y bu y drancedig a'r forwyn, Alice Hughes, yn cweryla yn gynharach yn y dydd, a gorchymynwyd i'r gwas nol heddgeidwaid yno. Yn ddiweddarach gwelwyd y gyhuddedig yn mynd oddiyno ac aeth yn ôl drachefn gyda'r heddgeidwad, yr hwn a ganfu Miss Humphreys yn farw a marciau ar ei gwddf. Cymerwyd yr eneth i'r ddalfa ar amheuaeth o fod wedi achosi ei marwolaeth.Yn y trengholiad pasiwyd ddarfod i'r drancedig farw o farwolaeth naturiol, eithr yr oedd yr ynadon wedi pasio i anfon Alice Hughes i sefyll ei phrawf ar gyhuddiad o ddynladdiad. Tystiwyd gan William Dowell ac Edward Jones Evans, ynghylch yr amgylchiadau foreu'r trychineb. Tystiwyd hefyd gan yr heddwas Nelson, yr hwn a ganfu y corff. Dywedai ef i'r eneth ddweyd wrtho na buasai ei bywyd ganddi onibae mai hi oedd y gryfaf. Dywedodd Mrs Hughes, mam y gyhuddedig, y derbyniodd dri o lythyrau oddiwrth ei geneth o garchar Walton. Yr oedd wedi llosgi dau o'r llythyrau. Darllenwyd copi o un yn y llys, ac yr oedd y datganiad a ganlyn ynddo "Beth tybed mae fy mrodyr a'm chwiorydd yn ei feddwl am y trosedd arswydus hwn. Nis gwn beth wnaeth i mi ddechreu arni, ond yr oedd yn greulon wrthyf o hyd am ddim, ac yn fy mhoeni yn barhaus. Gofynais iddi lawer gwaith fy ngadael i fynd ymaith."
Tystiwyd gan Dr Lloyd, Rhyl, mai achos marwolaeth Miss Humphreys oedd diffyg y galon, a thystiwyd yr un modd gan Dr Batten Williams. Dr Jones Griffith, swyddog meddygol carchar Walton, ddywedai fod yr eneth yn isel ei hysbryd ac yn ddyryslyd ei meddwl pan ddaeth i'r carchar, ai bod rhywbeth yn debyg pan yn mynd oddiyno. Nid oedd ef yn meddwl ei bod yn deall ei sefyllfa, nac mewn cyflwr priodol i wybod beth oedd yn ei wneyd pan yn ysgrifenu y llythyr.
Ni alwyd y gyhuddedig i'r dystle, a phasiwyd rheithfarn o Ddieuog, a gollyngwyd Alice Hughes yn rhydd. Cafodd y ddedfryd gymeradwyaeth uchel gan y rhai oedd yn y llys.
Yr Udgorn 22/10/1913