MARW A CHLADDU.
Parodd marwolaeth sydyn Mr Owen Elias, Rhedynog, yr hyn cymerodd le yn Lerpwl, dristwch nid bychan pan gyrhaeddodd yr ardal.Bu am flynyddau yn ddeacon ffyddlon yn nghapel Ebenezer. Dygwyd ei gorff i'w gladdu yn mynwent y plwyf ddydd Sadwrn, Mai 19eg.
Cyd ymdeimlir a'i unig frawd, Mr Hugh Ellis, Rhedynog, yn y brofedigaeth.