FOURCROSSES.

MARWOLAETH CAPTEN WILLIAM E JONES.

Brynhawn Mercher, ar ol cystudd lled faith a phoenus, bu farw y gwr ag y mae ei enw wrth ben yr ysgrif — enw ag sydd yn dra adnabyddus i lawer o forwyr Gogledd a Deheudir Cymru.

Hyd o fewn rhyw ychydig flynyddau yn ol, yr oedd wedi bod yn dilyn ei alwedigaeth yn gyson am gyfnod o ryw bymtheg neu ddeunaw mlynedd ar hugain. Yr oedd gyrfa Capten Jones wedi bod yn llawnach o beryglon na chyffredin. Yr oedd yn feddiannol ar nerth corphorol mawr, a phenderfyniad a gwroldeb di-droi-yn-ôl, a chafodd y fraint o roi y nodweddion hyn ar waith fwy nag unwaith i waredu bywydau gwerthfawr o safn marwolaeth.

Yn mis Mai, 1881, ger Penrhyn Gobaith Da, pan ydoedd yn fate ar y llong "Cardiganshire," goddiweddwyd hwy gan y ystorm enbyd, pryd y canfyddasant lestr fawr yn suddo yn y pellder. Gwelsant ar unwaith, fod pob gobaith am achubiaeth ei dwylaw ar ben os nad ellid ar unwaith anfon cwch dros y tonau cubyd i'w gwaredu.

Dywedodd Capten Jones y mentrai ef allan i gynnyg ar y gwaith elodus os deui rhyw bedwar gydag ef. Cafodd hwynt, a chychwynodd y bad i'w fordaith beryglus gydag yehydig o obaith y dychwelai. Rhwyfasant yn galed am oriau, nes o'r diwedd gyrhaedd i ymyl y wreck, ond gwaith anhawdd iawn oedd mynd iddi.

Llwyddodd Capten Jones i gyrhaedd y bwrdd, a chafodd fod rhai o'r dwylaw, yn nghyda'r capten, yn barod wedi eu golchi drosodd, ond yr oedd yn aros saith o ddynion, gwraig y capten a geneth fach ddeng wythnos oed. Yr oedd un o'r dynion wedi tori ei glun. Ac yr oedd yr oll mewn ystad o ludded eithafol.

Yr unig ffordd i'w gwaredu oedd eu gollwng gyda rhaff i'r cwch, yr hwn a chwymdeflid gan y tonau islaw. Yn gyntaf, rhwymwyd y plentvn mewn cortynau, a gollyngwyd nes o'r diwedd y daeth i ddwylaw y cychwyr. Ceisiwyd gan y fam gymeryd ei gollwng yr un modd, ond yr oedd golwg ar y mor yn rhy ddychrynllyd ganddi fentro.

Rhwymwyd hi gyda rhaff ar gefn Capten Jones, a mentrodd yntau y dynged gyda'i lwyth gwerthfawr nes iddo, ar ol mawr anhawsder, osod y fam a'r ferch gyda'u gilydd yn y cwch. Aeth i'r llong drachefn, a gorchymynodd rhwymo y dyn anafus yr un modd, a dygwyd yntau yn ddiangol, a chyrhaeddodd y cyfan fwrdd y "Cardiganshire" yn ddihangol.

Perthynai y criw i long Swedaidd o'r enw "Davina." Am y gwrhydri hwn, rhestrwyd Capten Jones yn nosbarth cyntaf gwrolion y flwyddvn, a chyflwynwyd medal Bwrdd Masnach iddo yn Nhwr Llundain yn ystod yr haf dilynol. Cafodd hefyd dystysgrif y "Liverpool Shipwreck and Humaane Society," yn nghyd a binocular glass a rhodd o lOp am yr un gwrolwaith.

Yr oedd Capten Jones yn 1882 yn gwasanaethu ar y transport service yn adeg rhyfel yr Aipht. Yr oedd ar faes Tel-el-Kebir yn mhen rhyw ychydig ddyddiau wedi'r gelanedd. Dygodd oddiyno rifle a chleddyf gwaedlyd oddiar gorph un o wrolion Arabi Pasha oedd wedi syrthio yn yr ymgyrch, i gofio am y fan.

Llongddrylliwyd Capten Jones bedair gwaith, un tro pan gyrhaeddodd ei long, "Cordova," i'r lan yn y Straits of Maire Terra del Fuego. Bu ef a naw neu ddeg o'i griw yn ddiamddiffyn ym mhlith un o'r cenedloedd isaf o ddynolryw am 22 o ddyddiau. Pan anfonwyd y cwch allan i geisio sylw llong oedd yn pasio, dilynodd yr oll o'r criw oddigerth Capten Jones hi mor bell fel y bu agos iddynt fethu dychwelyd. Y canlyniad fu gadael y capten ei hunan am ddyddiau yn nghanol y barbariaid. Daethant ato yn lluoedd, a rhoddodd bob gobaith am ei fywyd i fyny, ond er iddynt, pan grefai am hyny drwy arwyddion, wrthod rhoi tamed iddo i'w fwyta, gadawyd ei fwyd iddo. Dychwelodd y criw lluddedig, a mentrasant oll i'r mor, a chipiwyd hwy i fyny gan lestr oedd yn mynd i Valparaiso.

Yr oedd ei glywed yn adrodd am fywyd ac arferion rhyfedd y Fuegiaid yn ddyddorol iawn. Dygodd fwa a saethau oddiyno, am y rhai y gwrthododd 15p gan foneddwr ar ei daith adref, am y rheswm, meddai, "Eu bod wedi costio yn rhy ddrud iddo."

Cyfarfyddodd flynyddau yn ol a damwain drwy gwymp yn San Francisco, a bu am lawer o wythnosau yn yr hospital Gatholig, penaeth ofalus pa un yw y Sister Russell, chwaer Arglwydd Brif Farnwr Prydain. Coleddai Capten Jones syniadau uchel iawn am y foneddiges Gristionogol hon. Ni wellhaodd fyth yn dda oddiwrth effeithiau y ddamwain, ac y mae yn ddiau fod y poenau a ddioddefai yn ddiweddar i'w priodoli iddi.

Yr oedd Capten Jones yn feddiannol ar gymeriad o'r unplygrwydd a'r gonestrwydd mwyaf diamheuol, ac fel y cyfeiriwyd, cyfunai a hyn wroldeb a phenderfyniad dihafal. Yr oedd yn gyfaili cywir o ymddiriedaeth lwyr. Nodweddid ef hefyd bob amser a thawelwch a hunanfeddiant, ac nid oedd dim ffieiddiach ganddo na brol ac ymffrost.

Gadawa dad a mam, brawd a dwy chwasr i alaru ar ei ol. Ei rieni ydynt Robert a Dolly Jones, gynt o Ty'nlon Bach.

Bu farw yn ei 54 flwyddyn, a chladdwyd ef yn mynwent Abererch, ddydd Sadwrn diweddaf.

Yr Herald Gymraeg 08/06/1897