John David, Tanybryn, Llannor, Farmer : Will 1844.

Yn Enw Duw Amen.

Yr ydwyf I John David o Danybryn Plwy Llannor, Swydd Gaernarvon, Ffarmwr yn wael o ran fy nghorff ond yn mwynhau fy nghof am synwyrau fel arferol ac i'm Duw y bo y diolch. Byth byth a yr wyf yn gwneud hwn i fod fy Ewyllys diweddaf a hwn yn unig hefyd fel y canlyn.

Yr wyf yn rhoddi ac yn cyfrannu y cwbl o'm holl eiddo sef yr hyn oll ac oll obob enw a nattyr fowy bynnag sef yr hyn oll ac y fydd gennyf yn y tŷ hwn o bob dodrefn a gwerth - hefyd yr hyn oll ac oll ac y sydd gennyf allan o'm tŷsef fy holl stock o bob enw a nattyr a gwerth pwy bynnag ie meddaf yr ydwyf yn ei rhoddi yn gyfangwbl oll ac oll yn gyfiawn ac yn gyfreithlon i'm hannwyl wraig Ellin a'm hannwyl fab Hugh, rhyngddynt a'u gilydd yn ddiwahanaieth tra y bo fy annwyl wraig Ellin yn fyw ac gwedi ei marwolaeth hi sef Ellin y cwbl oll ac oll fel y nodwyd uchod i fy mab Hugh am byth, ac nid ydwyf yn rhoddi un dim o'm heiddo i neb arall pwy bynnag.

Hefyd yr ydwyf yn gosod fy annwyl wraig Ellin a'm mab Hugh i fod yn ysgytorion i weynyddu yr Ewyllys hwn (Executors).

Yr ydwyf hefyd yn awdurdodi yn cadarnhau ac yn sicrhau hwn i fod fy Ewyllys diweddaf ac wedi difodi pob un arall. Trwy arwyddiad fy llaw fy mark a'm sel yng gnwydd y Tystion presenol y rhai a alwyd trwy fy ngorchymyn ir dyben hyn.

Hefyd yr ydym ninnau yn dystion cyfrifol gwedi ein galw i ddwyn y dystiolaeth yma gan y Testamentwr yn ysgrifennu ein henwau isod yng ngwydd a yn bron y Testamentwr uchod (John David) heddiw 27 Mawrth 1844 a hefyd yng ngwydd ac yn bresenol gydan gilydd yn dystion.
Maurice Lewis Rhydyclafdu
Robert Roberts Penyberth

On the twenty third day of October in the year of our Lord one thousand eight hundred and forty four, the within written Will was insinuated proved approved and in common form of Law decreed valid and Administration granted to the within named Eleanor Davies and Hugh Davies, Joint Executors, they being first sworn in common form of Law, and that the whole of the Goods Chattels Effects and Credits of the said deceased do not amount in value to the sum of one hundred pounds.
Before me William Williams Surrogate.

The Testator died on the 17 day of May 1844.

A true and perfect Inventory of all the Goods Credits and Effects of the late John Davies of Tan y bryn in the Parish of Llannor in the County of Carnarvon, Farmer, deceased made and appraised by us (Gratis) this Twenty sixth day of September in the year 1844.

  £ s d
His Wearing Apparel 1 17 06
Household Furniture 5 10 00
Livestock 12 10 00
Farming Stock 1 15 00
Hay, Corn and Potatoes 9 00 00
  30 12 06

Robert Roberts and Owen Roberts Appraisers

LlGC Ewyllysiau Plwyf LLANNOR Parish Wills NLW