MR EVAN HUGHES, BRYN, LLANGWNADL.

Marw.

Yn ymadawiad Mr Evan Hughes, Bryn, collodd y plwyf yr hynaf o'i frodorion, yn 87 oed. Ganed ef yn Hen Dy, Mynydd Mawr, yng ngolwg Culfor ac Ynys Enlli, o'r lle yr hanai ei fam, hi yn ferch Dyno Goch, un o'r tir mawr oedd ei dad, a oedd yn ddyn cryf iawn. Clywsom Evan Hughes yn adrodd droion fel yr aeth yn sialens rhwng ei dad a rhywrai, y buasai yn cario sachaid o beilliad, 280o bwysau o'r pentref i'w gartref ger Capel Uwchmynydd, dros filldir o ffordd a honno yn drom iawn, a llwyddodd i'w gwneud. Yr oedd Evan Hughes yn wr cydnerth, yn chwe troedfedd o daldra. Cafodd gynnig pan yn ieuanc ymuno a Gwarchodlu y Frenhines Victoria. Flynyddoedd yn ol bu yn morio cryn dipyn. Yr oedd y mor, rywfodd, fel pe ynghlwm yn ei gyfansoddiad. Buasai yn ymdroi llawer i son am longau ac Ynys Enlli.

Dydd Llun, y 25ain cyf, hebryngwyd ei weddillion i Hen Fynwent St Hywyn, i'r lle yr ydoedd ei briod wedi ei ragflaenu rhyw 26 mlynedd yn ol. Cafodd angladd barchus.

Yn y ty gwasanaethai y Parchn. W. Williams (Ficer); J. Bodfan Anwyl, a Lewis Williams, M. A., mab y Ficer, ac yn yr eglwys a'r fynwent gwasanaethai Ficer Aberdaron a'i Ddarllenydd Lleyg.

Yr oedd ei dair merch yn bresennol, a'i wyrion, a nifer o or-wyrion, a daeth nifer o gymdogion i'w gychwyn ran o'r ffordd, ac yn ei ddisgwyl yn y pentref yr oedd nifer dda o hen ffrindiau, wedi dod i dalu'r gymwynas olaf.

Huned bellach yn swn mor aflonydd y pentref.

Dymuna'r teulu ddiolch yn gynnes i bawb fu yn garedig yn yr amgylchiad.

Anfonwyd blodeudyrch fel y canlyn : Sarah ac Owen, Teulu Glanrafon Bach; Maggie, Glynllifon, Pwllheli; Cefnder a'r plant, Dynfra, Tanrallt, Rhosgadfan; Bryn, Chwilog; Mrs Jones, Anhegraig, Lletty Adds; Ynys Waen Pentreuchaf, a phawb yn Abererch Road.

Yn y ty gwasanaethai Mrs. Roberts, Ty'n Lon; Mrs Roberts, Bronant, a Mrs Jones, Ty Cefn.