MARW A CHLADDU.
Dydd Llun, Ebrill 22ain, bu farw Mr. John Jones, Ty Bach, Enlli, yn 41 mlwydd oed.Dygwyd ei weddillion drosodd i Aberdaron, claddfa'r teulu, St. Hywyn, i'w priddo ddydd lau, y 25ain Ebrill {angladd cyhoeddus).
Gwasanaethwyd yn y tŷ gan weinidog yr Ynys, yr hwn a roddai ganmoliaeth uchel i'r brawd ymadawedig fel gŵr da ac a hoffid gan bawb yn yr Ynys. Gwasanaethwyd yn yr eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch. T. E Owen, M.A., Aberdaron.
Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu profedigaeth lem.