MARW GENETH IEUANC.

Dydd Gwener diweddaf, ar ôl cystudd blin, bu farw Miss Jane Thomas Jones, Aberdaron (yr hon fu yn ngwasanaeth Mr Samuel Lloyd, Bodarfor, am dros saith mlynedd), yn 25 mlwydd oed.

Yr oedd yn eneth ieuanc brydweddol a hoff, ac yr oedd nodweddion prydferthaf ei rhyw yn amlwg yn ei chymeriad. Bu yn hynod ffyddlawn i'r moddion yn y Tabernacl tra y bu yma.

Claddwyd ei gweddillion marwol ddydd Mawrth yn mynwent Aberdaron.

Cydymdeimlir yn ddwys a'r teulu yn eu profedigaeth lem.

Yr Udgorn 18/10/1916