TRANC HEN FELINYDD.
Cael Corph ar y Traeth.
Fel yr oedd Dr. Ellis T. Evans. Abersoch, yn gyru yn ei fodur ar ffordd Nanhoron y Sul cyn y diweddaf, cafodd Mr, John Griffiths, Melinydd, y Felin Newydd, Nanhoron, yn gorwedd yn anymwybodol ar y ffordd a'i felsicl ychydig latheni oddiwrtho. Bu farw ymhen ychydig funydau.Mae'n ymddangos i'w ddeurod lithro pan oedd yn mynd i lawr yr allt ac iddo yntau dori asgwrn ei ben. Yr oedd yn 70 mlwydd oed, ac yn byw yn Aberdaron.
Yn y trengholiad a gynhaliwyd ddydd Llun gan Mr. O. Robyns Owen (Crwner), Mr. Griffith Roberts, Llythyrdy, Aberdaron, yn flaenor y rheithwyr, pasiwyd mai damwain fu.
Claddwyd dydd Mercher yn Aberdaron.