John Prichard Bodisaf, Aberdaron, Labourer : Will 1858.
Fy ewyllys diweddaf i, John Prichard, Bodisaf Plwyf Aberdaron Swydd neu Sir Gaernarfon ydyw hwn yn ysgrifennu isod.Yn gyntaf rwyf yn rhoddi ag yn gadael I fy wyr sef Evan William, Tynlone y swm o wyth bunt, i'w talu iddo ymhen dwy flynedd ar ôl fy marwolaeth i a'm gwraig. Ond os bydd y dywededig Evan William farw cyn yr amser crybwylliedig bydd y swm uchod yn aros hefo'r ysgytorion ac yn eiddo iddynt hwy.
Yn ail rwyf yn rhoddi ac yn gadael i blant Brynsander sef fy wyrion y swm o ddeg ar hugain o bunau i'w talu iddynt ar ôl marwolaeth fy merch Catherine a William ei gŵr, sef tair punt bob blwyddyn am dair blynedd ar ddeg a phunt bob o hyny sef yvtair dywededig yn y flwyddyn yn gyfartal ond os bydd un neu fwy ohonynt farw cyn yr amser uchod crybwylledig bydd y taliadau yn darfod ac yn eiddo yr ysgytorion.
Yn drydydd rwyf yn rhoi ac yn gadael i fy merch Cathrine a John ei mab a Cathrine ei merch sef fy wyrion fy ffarm elwir Bodisaf neu pa enw bynag arall ei gelwir yn y plwy dywededig Aberdaron neu yn unrhyw blwyf arall os canfyddir ag hefyd rwyf yn ei peny ag yn ei hordeinio sef y tri diweddaf i fod fy nghymyn am hewyllys weinyddwyr diweddaf sef fy merch Cathrine a'i phlant dywededig. Ac hwnw neu hono a fydd yn meddianu fy nhir sef yn fyw daly yr arian uchod. I blant Brynsander sef fy wyrion eraill crybwylliedig, ag hefyd bydd rhaid i'r cyntaf o fy wyrion sef plant fy merch Cathrine a briodo sef John neu Cathrine ymadael o Bodisaf a'r llall dalu iddo neu iddi y swm o ddwy bunt am ei hoes neu os am ei oes ar ffarm i'r llall am byth.
Rwyf yn diddymu pob ewyllys arall ag peny hwn i fod yr un diweddaf rhoi is fy llaw a fy sel y dydd a'r flwyddyn fel y mae isod Ebrill 4ydd 1857.
Yr ydym ninau rhai sydd eu henwau isod ym mhresenoldeb John Prichard ac ym mhresenoldeb ein gilydd yn rhoi ei henwau fel tystion ar y dydd a'r flwyddyn crybwylliedig.
William Jones Cyllyfelin
William Thomas
Cathrine Jones Morwyn Talcanyfoel
On the sixth day of January in the year of our Lord 1858 the above Will was insinuated proved approved and in common form of Law decreed valid and Administration granted to Cathrine Jones one of the Executors within named, she being first sworn in common form of Law and that the whole of the Goods Chattels and Credits of the said deceased do not amount in value to £20, power being reserved for John Jones and Cathrine Jones the other Executors named, to take upon then the execution thereof whenever they shall lawfully demand the same. Before me Thomas Jones Surrogate. The deceased died 1st day of October 1857.