Owen Williams, Rhyllach Uchaf, Llannor (gynt o Bodrynabwy, Aberdaron), Joiner : Will 1844.
Yr wyf I Owen Williams gynt o Bodrynabwy, ond yn bresenol yn Rhyllach Uchaf, Plwy Llannor, Swydd Gaernarfon yn mwynhau fy nghof a'm synhwyrau fel arferol ac i'm Duw y bo y clod byth am hynny, ond mewn gwaeledd o rhan fy nghorff ac wedi galw i'm cof fyrdra ac ansanteiddrwydd oes dyn ar y ddaear, ac felly yr ydwyf yn gwneud, yn sefudlu ac yn ordeinio hwn i fod fy ewyllys diweddaf, ac fel y canlyn yr ydwyf yn trefnu yr eiddo a roddodd yr Arglwydd i mi.Yr wyf yn gosod ac yn ordeinio fy nau frawd i fod yn gyd Ysgytorion (Executors) i'r Ewyllys hwn, sef fy mrawd John a fy mrawd David ym hob peth yn gydradd a'u gilydd, ac yr wyf yn gorchymyn iddynt dalu fy holl ddyled i bawb - a biliau y doctoriaid a holl gostau fy nghladdedigaeth yn weddaidd a pharchus ac iddynt hwythau sef fy nau frawd a enwyd gael a chymeryd yr holl weddill a fydd gwedi talu pob peth megis y nodwyd uchod, rhyngddynt a'u gilydd yn ddiwahaniaeth sef rgan ymhen rhan yn gyfiawn a chyfreithlon. Yr wyf yn rhoddi pob awdurdod iddynt rhyngddynt i godi fy arian oll a'u log parai syss ym Manc Pwllheli ac hefyd fy holl arian yn gwbl y rhai y sydd yn Bank Caernarvon a elwir Banc North Wales and Chester sef y cwbl o bob hawl arnynyt am sel yng ngwydd y tystion presenol heddiw 28ain Mehefin 1844 i fod fy ewyllys diweddaf. Maurice Lewis Rhyd
Owen Roberts Rhyllach
On the 14th day of August in the year of our Lord 1844, the within written Will was insinuated proved approved in common form of Law and Administration granted to the within named Executors, John Williams and David Williams, they being first sworn in common form of Law, that the whole of the Goods, Chattels and Credits of the said deceased do not amount in value to £50.
Before me St Geo Armstrong Williams Surrogate
Ewyllys diweddaf Owen Williams gynt o'r Rhyllach Uchaf, Plwy Llannor, llanc ieuanc 24 blwydd oed, gwedi bod yn wael ac yn gorwedd dros flwyddyn a hanner. Dyma ydyw gwir cywir ac yniawn Inventory o bob eiddo, sef yr arian a gwerth hefyd pa rai ydoedd euddo ac arian y diweddar Owen Williams o Rhyllach Uchaf, Plwy Llannor, Swydd Gaernarvon yr hwn a orphenodd ei yrfa yma prydnawn Dydd Gwener 28ain Mehefin 1844, ac wedi gwneuthur ei ewyllys, a gosod ei ddau frawd yn Ysgytorion i weinyddu yr Ewyllys hwnw ac i feddianu y gweddill o'r euddo a'r arian gwedi talu pob peth megis ac y mae yn ei ewyllys - pa rai eiddo a brisiwyd genom ni sef Owen Roberts o Rhyllach Uchaf, Plwy Llannor a Maurice Lewis o Rhydyclafdu, Plwy Llannor ac hefyd ei holl arian a rhoddwyd mewn cyfrif yma hefyd - heddiw yr wythfed dydd o Awst yn y flwyddyn 1844 fel y canlyn.
| £ | s | d | |
| Ei Ddillad | 1 | 10 | 00 |
| Arian a llog yn y Bank Pwllheli | 10 | 02 | 06 |
| Arian a llog yn y Bank Carnarvon | 33 | 12 | 00 |
| Arian o'r Clwb a'r Gladdedigaeth | 3 | 00 | 00 |
| 48 | 04 | 06 | |
| Taliadau Allan | 32 | 10 | 00 |
| Yn Weddill | 15 | 14 | 06 |
| TALIADAU ALLAN | £ | s | d |
| Biliau Doctoriaid | 9 | 10 | 00 |
| Costau'r Gladdedigaeth | 12 | 00 | 00 |
| Dyled a fenthycodd | 6 | 00 | 00 |
| Attendance tra yn wael am 18 mis | 5 | 00 | 00 |
| 32 | 10 | 00 |
Maurice Lewis a Owen Roberts
In the Consistory Court of Bangor. Appeared personally Maurice Lewis of Rhyd in the Parish of Llannor in the County of Carnarvon, Saddler, and made oath that he is one of the subscribed Witnesses to the last Will and Testament of Owen Williams late of Rhyllach Uchaf, in the Parish of Llannor in the County of Carnarvon and Diocese of Bangor, Joiner deceased written in the Welsh Language now hereto annexed marked with the letter A, and commencing with the words
“Yr wyf I Owen Williams gynt o Bodrynabwy ond yn bresenol yn Rhyllach Uchaf, Plwy Llannor, Swydd Gaernarvon yn mwyhau fy nghof am synwyrau fel arferol ac i'm Duw y bo y clod byth am hynu.” and ending with the words “Yr wyf yn arwyddo hwn a fy mark an sel yngwydd y tystion presenol heddiw 28ain Mehefin 1844 i fod fy Ewyllys diweddaf.”
That the said Will is in the hand writing of him this Appearer, That the said Testator was at the time of the making thereof of sound mind memory and understanding and that the said Will was read over and fully explained by this Appearer to the said Testator who expressed his approbation thereof and the said Testator afterwards signed the said Will by subscribing his mark at the foot or end thereof in the presence of this Appearer and of Owen Roberts of Rhyllach in the Parish of Llannor aforesaid, and thereupon this appearer and the said Owen Roberts in the presence and at the request of the said Testator and in the presence of each other, and at the same time subscribed their names as Witnesses to the due execution of the same Will by the said Testator.
That the names Maurice Lewis and Owen Roberts set and subscribed to the said Will as Witnesses attesting the execution thereof are of the respective proper hand writing of him this Appearer and the said Owen Roberts respectively. And Appearer lastly saith that the said Will is now in the same Plight Order and Condition as it appeared at the time of the execution thereof by the said Owen Williams the Testator save and except the Names Maurice Lewis and Owen Roberts added as Witnesses to the due execution thereof as aforesaid.
On the fourteenth day of August in the year of our Lord one thousand eight hundred and forty four, the said Maurice Lewis was duly sworn to the Truth of this Affidavit.
Before me St Geo Armstrong Williams Surrogate