BANGOR.
MARWOLAETH AMAETHWR ADNABYDDUS.
Nos Sul, bu farw, yn dra sydvn, Mr Humphrey Ellis, y Wig, ger Bangor, yr hwn a adnabyddid yn dda yn nghylchoedd, amaethyddol Gogledd Cymru fel amaethwr llwyddiannus a magwr gwartheg Cymreig a cheffylau trymion.Yr oedd Mr Ellis vn 40 mlwydd oed, ac yn ystod y blynyddau diweddaf cymerodd ran flaenllaw gydag arddangosfeydd amaethyddol, ac yr oedd yn aml yn enillwr ynddynt. Bu am beth amser yn is-lywydd Cymdeithasg Dyffryn Conwy.
Cymerodd yr angladd le dydd Mercher, yn mynwent blwyfol Aber, ac yr oedd yn hollol breifat.
Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth yn y ty gan y Parchn Owen Davies, D.D., Caernarfon. a J. Griffith, Llanfairfechan ac ar lan y bedd gan y Parchn E. P. Howell, M.A., rheithor Pentraeth, a Pierce Jones, M.A., rheithor Aber.
Gadawa y trancedig weddw a dau o blant i alaru ar ei ol.