MARW.
Yn Carngiwch brydnawm Iau claddwyd gweddillion bachgen bychan blwydd oed i Mr a Mrs Pritchard (heddwas Tremadog) Bwlch y ffordd, (Fourcrosses gynt).Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Rheithor, y Parch Hugh Williams, a'r Parch Mr. Jenkins, Rheithor Porthmadog.
Y mae hen Eglwys Camgiwch yn sefyll ar lecyn towel a dymunol o dan gysgod yr Eifl a mynyddau eraill, gydag afon yn ymddolenu o dani. Y mae hefyd yn sefyll ar gornel pump o blwyfi. Adeiladwyd hi yn y chweched gamrif, felly y mae yn 1,600 oed, a rhyfedd y cyfnewidiadau sydd wedi cymeryd lle er pan adeiladwyd hi.
Ond un o'r cyfnewidiadau hynotaf ydyw y cyfnewidiad sydd wedi cymeryd lle wrth gladdu y marw oes ar ôl oes. Yn yr hen amser byddid yn rhoddi canhwyllbrenau pres ar yr arch hyd ddydd yr angladd. A'r arferiad cyffredin yn yr hen amser fyddai cludo'r corph ar elor, neu yn eu dwylaw. Ar ôl hyny arferid cymeryd cert neu drol, ac wedyn daeth yr elorgerbyd, (hearse) ac yn ddiweddaf oll cerbyd modur. Y mae'r oll o'r rhai hyn wedi bod mewn arferiad wrth gladdu'r meirw ym mynwent hen Eglwys Carngiwch.
Hwn oedd y cyntaf i gael ei gludo yno mewn modur. Ai tybed y daw rhyw arferiad newydd eto!